Rydym ni’n creu cynnwys bywiog ar gyfer teledu, radio, addysg a chyfryngau digidol.
Mae Telesgop yn gwmni cynhyrchu amlgyfrwng sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae gennym ni dros 20 mlynedd o brofiad mewn creu cynnwys gafaelgar ar gyfer Teledu, Radio, Cyfryngau Digidol a phrosiectau addysgol. Rydym ni wedi gweithio gyda’r BBC, Channel 4, Starz, S4C, Animal Planet, Discovery Channel a Chynulliad Cymru. Mae’r cwmni sydd wedi ei leoli yn Stiwdios y Bae, Abertawe, yn datblygu’n gyflym, ac mae’n meddu ar gyfleusterau ar gyfer darlledu teledu, cynhyrchu fideo a chyfryngau digidol.
Gallwn helpu i ddod â’ch prosiectau yn fyw.
Cynhyrchu Fideo
Gallwn ni ddarparu dynion camera, golygu fideo, graffeg symudol a throsleisiau – popeth sydd ei angen i gynhyrchu fideo gwych.
P’un a yw hyn ar gyfer y teledu, y rhyngrwyd neu DVDau, gallwn ni gyhoeddi eich fideo ar gyfer nifer o ddyfeisiau a llwyfannau.
Cyfryngau Digidol
Rydym ni wedi bod yn creu ffurfiau amrywiol o Gyfryngau Digidol ers 2008, gan gynnwys gwefannau, apiau symudol, animeiddiadau a gemau.
Gallwch fwrw golwg dros enghreifftiau o’n gwaith.
Oes gennych chi syniad?
Oes gennych chi syniad cyffrous ar gyfer teledu, radio neu gyfryngau digidol? Beth am gysylltu â ni i weld a allwn ni eich helpu i ddatblygu’ch syniad?
Gall ein datblygwyr profiadol dargedu eich syniadau at y bobl gywir.