Ein bwriad yw rhannu storïau gwych.
Mae gan Telesgop dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn gweithio gyda chyd-gynhyrchwyr yn Yr Almaen, Iwerddon a’r Unol Daleithiau, ac rydym yn mynd ati i ddatblygu mentrau cydweithredol newydd ym mhob cwr o’r byd. Yn ogystal â chynhyrchu deunydd i’w ddarlledu ar deledu, mae gan Telesgop hanes rhagorol mewn cynhyrchu cynnwys corfforaethol, addysgol a chyfryngau digidol ar-lein. Rydym yn croesawu pob math o ffyrdd o adrodd storïau, trwy bob cyfrwng. Rydym bob amser yn canolbwyntio ar gynnwys ac fe gawn ein cymell i sicrhau ansawdd.