Home Addysg |  info@telesgop.co.uk  |  +44 (0) 1792 824567
  • English
  • Cymraeg
  • Addysg

    Education
    Cyfleoedd Gyrfa

    Ydych chi'n gynhyrchydd talentog?

    Cliciwch yma i gysylltu â ni

    Gyda phortffolio sylweddol o waith i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu, mae gennym brofiad helaeth o greu adnoddau gwreiddiol, dwyieithog i’w defnyddio mewn ysgolion, colegau a chanolfannau iaith ledled Cymru.

    Mae’r tîm Graffeg Symudol ac Animeiddio, sy’n cydweithio gyda’r adran Addysg a Corfforaethol yn bennaf,  yn creu delweddau cyfrifiadurol ardderchog ar gyfer y wê, DVD a deunydd caled megis llyfrau addysgol . Mae mwyafrif helaeth o’n cynnyrch yn cael ei ddefnyddio’n gyson ar Fyrddau Gwyn Rhyngweithiol o bob math ac ar amrywiol systemau VLE.

    Dyma rhai enghreifftiau o’r math o adnodd yr ydym wrthi’n creu, ac sydd wedi ei chyhoeddi’n ddiweddar.

    Clyw (Gwrando ac Ymateb)

    Gwefan sy'n cynnwys banc o 200 clip sain ynghyd â gweithgareddau cysylltiedig ydy Clyw, sy'n datblygu sgiliau gwrando disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

    Clic Clonc (Gweithgareddau Cymraeg i Oedolion)

    Adnodd Rhyngweithiol sy'n cefnogi dysgwyr sy'n dilyn cyrsiau dwys wedi'u trefnu trwy'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion ar lefelau Mynediad a Sylfaen, yn cynnig cyfle i ddysgwyr ymarfer patrymau iaith i'w cynorthwyo yn y dosbarth

    Celfyddydau Perfformio

    Adnodd dwyieithog ar-lein i gefnogi myfyrwyr ac athrawon sy'n paratoi ar gyfer TGAU newydd CBAC yn y maes Celfyddydau Perfformio

    Mynd am Dro gyda Mari a Max

    Cyfres o 6 llyfr dwy-ieithog sy'n cefnogi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, lleoedd a phobl, ar gyfer ystod oedran 3-7.

    Ynni Amgen

    Gwefan sy'n cynorthwyo addysgu'r cwricwlwm Dylunio a Thechnoleg yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r adnodd yn cynnwys deunydd gweledol a thestunol I gefnogi'r myfyrwyr.

    DVD Cymraeg i Oedolion

    DVD sy'n addas I oedolion sy'n dysgu Cymraeg er mwyn hyrwyddo'r defnydd o weithgareddau clyweledol yn yr ystafell ddosbarth trwy cyflwyno casgliad o glipiau fideo o amrywiaeth o raglenni S4C.

    Cronfa Ddata Deunyddiau Cymraeg

    Cronfa ddata gynhwysfawr ar-lein yn cynnwys adnoddau i gefnogi addysgwyr a dysgwyr Cymraeg ail-iaith o bob oedran.

    Lletygarwch ac Arlwyo

    Gwefan yn cynnwys cyfres o chwe uned o ddeunyddiau rhyngweithiol , sy'n apelio at ddysgwyr ôl-16, y gellir eu lawrlwytho i'w defnyddio ar fyrddau gwyn ac i'w hastudio'n annibynnol.

    Cynhyrchu Cig Eidion

    Pecyn addysgol rhyngweithiol yw 'Cynhyrchu Cig Eidion', i'w ddefnyddio mewn dosbarthiadau colegau a phrifysgolion yng Nghymru.

    Wedi ei gyhoeddi.

    Beirdd a'u Barddoniaeth

    DVD sy'n cyflwyno portreadau o'r 12 beirdd y mae eu gwaith wedi ei gynnwys ar fanyleb Llenyddiaeth Cymraeg TGAU.

    Wedi ei gyhoeddi.

    QUOTE:
    "Diolch o galon am y DVD 'Beirdd a'u Barddoniaeth' - mae'n adnodd ychwanegol a groesewir yn fawr".

    Amser Stori

    DVD sy'n magu hyder rhieni i ddarllen gyda'u plant yn Gymraeg, drwy gwylio'r clipiau i ymgyfarwyddo gyda'r stori cyn rhoi cynnig ar ddarllen y stori eu hunain.

    Wedi ei gyhoeddi.