Ffion Rees - Cyfarwyddwr Cwmni,
Cynhyrchydd Radio a Golygydd

Mae Ffion wedi bod yn Olygydd gyda Telesgop er 2014, yn gweithio ar gyfres wythnosol Ffermio; Her yr Hinsawdd i S4C a Climate Challenge i Sky Vision. Bu’n golygu pytiau a rhaglenni cyfan ar gyfer darllediadau digwyddiadau Telesgop i S4C, BBC Wales a BBC FOUR a’n golygu prosiect addysg ar y bardd Gwyn Thomas i Lywodraeth Cymru. Mae Ffion wedi cynhyrchu 2 gyfres gerddorol Emyn Roc a Rôl a rhaglen arbennig Nadolig i Radio Cymru. Yn ddiweddar enillodd gomisiwn cynta’r cwmni i BBC Radio 2 – First Cast.