Hwylio’r Byd

Cyfres wedi’i seilio ar ras hwylio fwyaf y byd sef ras gychod ‘Clipper Round the World Yacht Race’. Dyma’r gamp eithaf mewn hwylio – mordaith o amgylch y byd.

Mae’r gyfres hon yn dilyn yr anturiaethwraig Elin Haf Davies wrth iddi geisio cwblhau cam 6 y ras o Qingdao i San Francisco. Hwn yw’r cam hiraf, sy’n 5,680 o filltiroedd ar draws y Môr Tawel. Mae Elin yn ymuno â’r sgiper Olly Osborne ac 16 o forwyr eraill ar fwrdd cliper 68, Visit Finland.

Er bod Elin wedi rhwyfo ar draws yr Iwerydd a Chefnfor yr India, dyma fydd ei hymgais gyntaf i hwylio ar draws y cefnfor mwyaf yn y byd – y Môr Tawel.

  • Cleient: S4C
  • Blwyddyn: 2012
  • Genre: Chwaraeon