Lifting the lid on Wales’ hidden history

screenshot of homepage of ourwelshhistory.cymru

A hithau'n Fis Hanes Pobl Ddu, mae Telesgop yn falch iawn o gyhoeddi adnodd Hanes Cymru Ni - gwefan sy'n dathlu cyfoeth amrywiaeth hanes Cymru.

https://www.hanescymruni.cymru

Mae'r wefan addysgol gynhwysfawr, sydd ag adrannau i blant rhwng 3 ac 16 mlwydd oed, yn edrych ar gyfraniad pobl du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i hanes Cymru. Yn ogystal â gwybodaeth am bobl, lleoedd a digwyddiadau o bwys mae hefyd yn cynnwys adnoddau ychwanegol gan gynnwys: storïau, monologau, stribed cartŵn, erthyglau papur newydd, clipiau sain a fideos.

The resource contains information about people from North and South Wales, women and men, from a range of different backgrounds and professions. It includes well known names like Betty Campbell and Colin Jackson, as well as lesser know characters such as the gardener John Ystumllyn, the nurse Vernester Cyril and Lenn Lawrence the builder. It also has contributions from people who are shaping the history of Wales today like Dom James, Mel Owen, Richard Parks and Hanan Issa. Buildings such as Penrhyn Castle and Merthyr Synagogue are included as well as incidents such as the 1919 riots.

Cafodd y wefan ei chynllunio'n benodol ar gyfer Cwricwlwm Cymru gan gydweithio'n agos ag athrawon, arbenigwyr addysgol ac aelodau o'r gymuned Ddu, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae'n cynnig gwledd o adnoddau a fydd yn cefnogi athrawon i gyflwyno'r Cwricwlwm Cymraeg newydd.

“It’s been a priveledge and an eye opener for me to work on this project,” said Aled Richards, Head of Education for Telesgop. “I’ve met so many inspirational people and have learnt so much about the contribution of Black, Asian and Ethnic Minorities to the history of Wales – people which I’d had no idea about before!

Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni roi'r lle priodol i hanes Cymru yn ein hysgolion ac mae'n bwysig i ni edrych ar hanes Cymru yn ei gyfanrwydd - nid yn unig trwy lens pobl gwyn. Mae'n achos dathlu bod ein hysgolion yn amlddiwylliannol ac mae'n hanfodol bod ein hadnoddau addysgol yn adlewyrchu'r amrywiaeth yma a bod y disgyblion yn gallu uniaethu gyda'r bobl sy'n cael eu cyflwyno iddynt.

Rwy'n gobeithio'n fawr bydd yr adnodd yn ysbrydoliaeth i athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm newydd i godi'r llen ar hanes cudd Cymru ac y bydd e'n gam pwysig ar y siwrne o greu Cymru wrth-hiliol.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mi fydd yn cael ei gynnwys ar wefan addysgol y Llywodraeth sef `Hwb`.

Am fwy o fanylion cysylltwch ag aled.richards@telesgop.cymru