Lowri Thomas - Ymchwilydd / Cynhyrchydd Radio

Ymunodd Lowri â Telesgop yn 2008 fel ymchwilydd ar y gyfres ‘Ffermio’. Gweithiodd ar amryw o brosiectau fel ‘Bro’ a ‘Y Cymro a Laddodd Richard III’ a chynhyrchu rhaglen ‘Uchafbwyntiau’r Ŵyl Cerdd Dant’ ar gyfer S4C.

Yn ddiweddar, mae wedi cynhyrchu 15 o raglenni radio ar gyfer BBC Radio Cymru gan gynnwys ‘Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc’ ‘Yr Ôlsorts’ ‘Ffion Dancapel’ a ‘Brwydr Llangyndeyrn’, ac hefyd wedi cynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC Radio Wales – ‘Weston’s Band of Brothers’ a ‘Elvis: The Last King of Wales.’ Yn ogystal â hyn, mae Lowri yn rhan o’r tîm datblygu syniadau.