Bardd Roc a Rôl
Mae ‘Bardd roc a rôl’ yn blatfform addysgiadol newydd, cyffrous yn seiliedig ar waith un o gymeriadau enwocaf a mwyaf lliwgar llenyddiaeth Cymru – Dylan Thomas. Mae’n cynnwys:
• cynlluniau gwersi ar weithiau penodol;
• cyfoeth o adnoddau ar gyfer athrawon a disgyblion;
• llinell amser rhyngweithiol sy’n eich galluogi i ddarganfod mwy am fywyd Dylan;
• gwybodaeth am beth wnaeth ddylanwadu ar rai o’i gerddi mwyaf cofiadwy;
• e-lyfr, clipiau fideo a llawer mwy.
Mae’r wefan yn brosiect ar y cyd rhwng Telesgop a chyfranwyr amrywiol gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru / Llyfrgell Genedlaethol Cymru / David Higham, ac awduron profiadol. Cafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Y pwrpas yw sicrhau etifeddiaeth i flwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn Abertawe.
Bydd y wefan yn cael ei diweddaru’n gyson, gydag adnoddau pellach yn cael eu hychwanegu ati yn ystod y misoedd nesaf.
Mae ap adolygu amlblatfform rhad ac am ddim ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ar gael i’w lawrlwytho hefyd, sy’n eich galluogi i ddysgu mwy am Dylan mewn unrhyw fan ac ar unrhyw bryd. Mae’r ap ar gael ar gyfer ffonau a thabledi iOS, Android ac Windows. Gellir ei lawrlwytho o’r wefan neu o’r storfa ap yn rhad ac am ddim.
Mwynhewch Dylan ar www.rockandrollpoet.co.uk. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â info@rockandrollpoet.co.uk.

Hafan.

Ap Cyfnod Allweddol 2.

Ap Cyfnod Allweddol 3.
- Cleient: Llywodraeth Cymru
- Nodweddion Technegol: Gwefan, Apiau Symudol, e-lyfr digidol, llinell amser ryngweithiol
- Safle: Link