Haf yn Telesgop

Mae wedi bod yn hâf prysur yn Telesgop gyda nifer o wynebau newydd o gwmpas y lle. Diolch i chi am eich holl waith caled… a’r bisgedi! Pob hwyl gyda’ch anturiaethau nesa’!  

 

Yn wreiddiol o India, mae Srishti’n astudio cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe ac yn disgrifio’i hun fel rhywun ar bigau’r drain tan iddi foddi mewn cerddoriaeth, ffilmiau, rhaglenni teledu a llyfrau! Yn ffan enfawr o Phoebe Waller-Bridge a Taika Waititi breuddwyd Srishti’n yw ysgrifennu a datblygu syniadau ym myd adloniant.

 

Siw’ mae! Erin ydw i, myfyriwr y cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy’n gweithio gyda Telesgop ar hyn o bryd fel ymchwilydd ar gyfres fwyd newydd i’r BBC. Mae gen i gariad at ghaychak ffilm a theledu ac fe ddowch o hyd i fi’n gwylio unrhywbeth a phopeth!

 

Mae Rhodri newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd Meistr mewn Beioleg. Yn mwynhau dysgu pethau newydd drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, mae Rhodri wedi bod yn gweithio yn yr adran addysg fel cydlynydd – yn sicrhau bod popeth yn dod i drefn! Yn ei amser rhydd mae Rhodri yn gerddor brwd, yn canu’r clarinet a, bob hyn a hyn, yn cymeryd at y baton ac arwain Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin!