Teledu
Mae Telesgop wedi creu enw da am raglenni o safon uchel gydag arbenigedd mewn rhaglenni dogfen, ffeithiol arbenigol ac adloniant ffeithiol.
Rydym yn cynhyrchu rhaglenni ffeithiol ar gyfer rhwydwaith y DU ac yn gweithio gyda dosbarthwyr rhyngwladol i sicrhau bod ein rhaglenni’n cyrraedd cynulleidfa eang. Ar hyn o bryd, mae gennym gynrychiolaeth â BBC Worldwide, TVF International a DRG.
Rydym ni’n angerddol ynglŷn â Chymru ac yn cynhyrchu amrywiaeth o raglenni ar gyfer BBC Wales ac S4C.
Mae cyfres hynaf y cwmni, sef ‘Ffermio’, wedi cael ei darlledu ar S4C ers 1997, ac mae’r gyfres yn parhau heddiw. Mae’r rhaglen wythnosol boblogaidd hon yn canolbwyntio ar faterion gwledig ac mae’n llwyddo i ddenu rhai o gynulleidfaoedd mwyaf y sianel yn gyson. Mae cynulleidfa Saesneg y rhaglen yn ehangu hefyd.