Mae Telesgop yn gwmni cyfryngol blaengar gydag enw da a phrofiad helaeth mewn cynhyrchu cynnwys apelgar ar gyfer teledu, radio, DVDs, y we ac yn creu delweddau safonol iawn ar gyfer digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi.
O ran profiad, mae'r cwmni ag arbenigedd mewn cynhyrchu rhaglenni teledu gwyddonol, ecolegol, materion gwledig a dogfennau cyfredol ar gyfer cwsmeriaid fel y BBC, S4C, Animal Planet a Discovery Channel.
Yn gweithio o ardal newydd sy'n llawn o ddatblygiadau cyffrous, sef SA1 yn Abertawe, mae gan y cwmni'r adnoddau diweddaraf ar gyfer creu rhaglenni teledu a chynhyrchu cynnwys fideo.

