Ennill yn BAFTA Cymru!

Roeddem wrth ein boddau yn derbyn BAFTA Cymru ar gyfer Rhaglen Ddogfen Sengl yng ngwobrau BAFTA Cymru 2020 ar gyfer ein rhaglen 'The Prince and The Bomber'. Fersiwn Saesneg ein cyd-gynhyrchiad rhwng BBC Cymru a S4C, yn edrych yn ôl ar y cyfnod cythryblus yn arwain at arwisgiad y Tywysog Charles ym 1969.

Llongyfarchiadau enfawr i'r tîm yn Telesgop, Dyfrig, Molly, Mike a Lowri - y Cyfarwyddwr Mark Evans, y Cynhyrchydd Gareth Rowlands, DOP Haydn Denman a'r awdur ac hanesyddWyn Thomas.