Rydym wedi gweld cwpwl o wynebau newydd ar ein zooms yn ddiweddar! Ym Mis Mai 2021 fe ymunodd Rhodri Davies, Cory Richards a Bethany Stead â theulu Telesgop.
Mae Rhodri yn ymuno â’r tîm radio i ymchwilio a chynhyrchu eitemau ar gyfer ein rhaglen wythonsol ‘Troi’r Tir’ i BBC Radio Cymru yn ogystal â gohebu ar y rhaglen ddyddiol ‘Bwletin Amaeth’.
Yn yr adran Graffeg fydd Cory yn gweithio, yn creu pob math o bethau o deitlau i graffeg symudol ar gyfer ein rhaglen newydd ‘Fferm Fach’ i S4C.
O Lundain, mae Bethany yn gweithio gyda Sarah yn ein hadran ddatblygu.
Croeso Beth, Rhodri & Cory!