Tîm

Ffion Rees

Aled Richards

Lynne Thomas Davies

Terwyn Davies

Gwawr Lewis

Ellen Llewellyn

Rhys Jones

Gareth Vaughan Jones

Megan Williams

Gwion Ifan

Will Samuel

Srishti Berry

Gwenan Mars Lloyd

Dai Rees

Teleri Rees

Leia Cordey

Sarah Hendre

Elin Mair

Tom Mann

Siân Ann Davies

Keith Evans

Elin Rhys

Richard Rees

Elan Jones

Lois Cernyw

Rheolwr Gyfarwyddwr
Ffion Rees
Mae Ffion wedi cynhyrchu rhaglenni radio i BBC Radio 2, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales. Mae’r rhaglenni yma’n cynnwys ‘Sir Tom’s Musical Years’, cyfweliad arbennig rhwng Sir Tom Jones a Cerys Matthews i ddathlu ei benblwydd yn 80 i BBC Radio 2 a BBC Radio Wales. ‘First Cast – Cats’ lle cafodd cast a thîm cynhyrchu gwreiddiol y sioe West End aduniad a rhannu straeon gyda Ben Thompson. Rhaglen yn rhannu clecs ac atgofion yn cynnwys Lord Andrew Lloyd Webber, Sir Cameron Mackintosh, Brian Blessed, Elaine Paige, Bonnie Langford a mwy!
Yn ogystal a golygu ei rhaglenni radio mae Ffion wedi bod yn olygudd llun gyda Telesgop ers 2014, yn gweithio ar y gyfres wythnosol Ffermio a chyfresi Her yr Hinsawdd a Climate Challenge i S4C a Sky Vision. Mae Ffion wedi golygu eitemau a rhaglenni cyflawn o amryw ddigwyddiadau ar gyfer S4C, BBC Wales a BBC Four, ac mae wedi gweithio ar sawl prosiect addysg a chorfforaethol
Yn Rhagfyr 2020 fe raddiodd Ffion o gwrs '10,000 Small Businesses Programme' gan Goldman Sachs & Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen.


Head of Production
Aled Richards
Ymunodd Aled â chwmni Telesgop yn 2022. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu adnoddau addysgol, rhyngweithiol i ysgolion. Yn ystod ei yrfa mae wedi awduro a chynhyrchu CD-ROMau, gwefannau ac apiau ar gyfer disgyblion o 3 - 16 mlwydd oed.
Mae Aled yn mwynhau gweithio gyda gwahanol gyfryngau. Mae'n awdur llyfrau plant ac wedi sgriptio sioeau theatr, rhaglenni radio â theledu.
Aled sydd â chyfrifoldeb am brosiectau addysg Telesgop.

Pennaeth Datblygu
Lynne Thomas Davies
Mae Lynne yn Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr Cyfres profiadol ac mae ganddi dri deg mlynedd o brofiad helaeth ym mhob genre o wneud rhaglenni o sioeau cwis teuluol adloniant ysgafn mewn stiwdio i raglenni dogfen ffeithiol. Mae ei gwaith yn bennaf yn cynnwys sioeau stiwdio byw, cyfresi lluosog o raglenni ynghyd â rhaglenni dogfen unigol ar gyfer S4C, BBC Cymru a Discovery.
Mae ganddi ugain mlynedd o brofiad o gynhyrchu a chyfarwyddo sioeau cylchgrawn dyddiol byw mewn stiwdio aml-gamera gan gynnwys Darllediadau Allanol.
Ei gwir angerdd yw gwneud rhaglenni dogfen arsylwadol bywyd go iawn sydd wedi mynd â hi ledled y Deyrnas Unedig ac i wledydd eraill fel De Affrica, Croatia, Bosnia, yr Eidal, Gwlad Belg, Llydaw a rhanbarthau eraill o Ffrainc.
Mae hi'n cofleidio cyfle a her.

Cynhyrchydd Radio
Terwyn Davies
Ymunodd Terwyn â chwmni Telesgop yn 2011, ar ôl cwblhau cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth o Brifysgol Cymru Bangor, a bu’n gweithio ar nifer fawr o raglenni gan gynnwys Ffermio, Sioe Fach a Dathlu’r Sioe – cyfres o raglenni ar ganmlwyddiant Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Bu’n cyflwyno eitemau ar y Bwletin Ffermio a Ffermio ar S4C, cyn mynd yn ei flaen i gynhyrchu pedair cyfres o Bro ar gyfer S4C, gan deithio Cymru benbaladr gyda Iolo Williams a Shân Cothi, yn cyfarfod â chymeriadau o bob math.
Mae Terwyn hefyd yn lais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru, gan gyflwyno rhaglenni ieuenctid yr orsaf, C2, am flynyddoedd. Yn ddiweddar, mae Terwyn wedi bod yn cynhyrchu rhai o raglenni radio gan Telesgop i’r orsaf gan gynnwys rhaglen Tommo, Swyn y Sul gyda Lloyd Macey, Swyn y Sul gydag Arwel a Myrddin Hogia’r Wyddfa, ac erbyn hyn mae’n cynhyrchu rhaglen Ifan Evans bob prynhawn o ddydd Llun i ddydd Iau.
Terwyn yw cyflwynydd rhaglen materion gwledig a chefn gwlad Radio Cymru, Troi’r Tir, sy’n darlledu bob dydd Sul am 7am.

Cynhyrchydd
Gwawr Lewis
Ymunodd Gwawr â Telesgop nol yn 2007 fel ymchwilydd dan hyfforddiant ac wedi dal swyddi is-gynhyrchydd, cyfarwyddwr ac erbyn nawr yn gynhyrchydd cyfres Ffermio, yr unig raglen amaethyddol wythnosol yn y Deyrnas Unedig. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae wedi bod yn gyfrifol am ddwy raglen awr arbennig o Ffermio, Gareth Wyn Jones yn Seland Newydd a rhaglen fyw o wyna ar fferm un o’r cyflwynwyr.
Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio ar amryw o gynyrchiadau, wedi cynhyrchu The Royal Welsh Show, Treialon Cwn Defaid Rhyngwladol, Sioe Sir Fôn, Sioe Sir Benfro, Hwyl Steddfod y Ffermwyr Ifanc, Cofio Brynle Williams yn ogystal â ‘Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC’. Mae Gwawr yn gynhyrchydd golygu profiadol ar y cynyrchiadau uchod a hefyd ar gyfresi ‘Y Goets Fawr’ a ‘Y Sipsiwn’. Ar hyn o bryd, mae’n cynhyrchu rhaglen arbennig o ‘Our Lives’ i’r BBC.

Newyddiadurwr a Chyfarwyddwr Darlledu
Ellen Llewellyn
Newyddiadurwr a chyfarwyddwr profiadol sydd yn allweddol i dim Ffermio. Merch i ffarmwr, gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym myd darlledu.
Cyn ymuno â Telesgop, bu Ellen yn gweithio fel gohebydd ar raglenni cylchgrawn dyddiol S4C 'Wedi 7' a 'Wedi 3'. Mae hi hefyd wedi gweithio fel newyddiadurwr radio. Mae gan Ellen ddawn i fynd at galon stori yn gyflym trwy sgiliau ymchwil o'r radd flaenaf.
Tu allan i'r gwaith mae hi'n cyfrannu at lwyddiant ysgubol y fuches bedigri Hirgron ar fferm y teulu. Hefyd, mae Ellen yn rhedwraig frwd sydd wedi cystadlu yn Marathon Llundai, ac yn hyfforddi ar gyfer Efrog Newydd!

Is Gynhyrchydd
Rhys Jones
Wedi cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ymunodd Rhys â chwmni Telesgop ym mis Mai 2016, fel ymchwilydd ar y rhaglen ‘Ffermio’. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel is-gynhyrchydd ar y rhaglen ‘Ffermio’ ac wedi cynhyrchu'r rhaglen am gyfnodau ynghyd a rhaglenni arbennig y gyfres.
Hefyd bu’n rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am ddarlledu nifer o raglenni byw y mae cwmni Telesgop wedi eu cynhyrchu fel yTreialon Cwn Defaid Rhyngwladol, Eisteddfod CFfI Cymru â'r Gŵyl Cerdd Dant.

Cyfarwyddwr / Camera
Gareth Vaughan Jones
Mae Gareth wedi gwethio gyda Telesgop ers 1996 ar ôl bod gyda’r BBC a chyfnod yn gweithio’n llawrhydd. Yn ystod ei gyfnod o 36 mlynedd yn y diwydiant mae e wedi gweithio ar ystod eang o gynhyrchiadau dros y cyfnod hyn gan gynnwys rhaglenni, dogfen, ffeithiol, chwaraeon, drama a materion cyfoes. Cynhyrchodd Gareth gyfres bysgota, ‘Sgota gyda Julian Lewis Jones a enwebwyd ddwywaith ar gyfer BAFTA[Cymru]. Hefyd cafodd y gyfres ei henwebu ar gyfer yr Wyl Ffilm Geltaidd yn Stornoway. Cynhyrchodd Gareth raglen ar y Clipper Round the World Race Hwylio’r Byd[S4C] gydag Elin Haf Davies a rhaglen Nigel Owens at the Royal Welsh Show[BBC],hefyd roedd yn Gyfarwyddwr ar rhaglen Gareth Wyn Jones yn Seland Newydd[S4C]. Bu hefyd yn gweithio fel gwr camera ar Davinci’s Demons – tu ôl i’r llenni [Starz & Fox].
Ar hyn o bryd mae Gareth yn gweithio fel Cyfarwyddwr/ Gŵr Camera a Gweithredwr SUV [drôn] ar y rhaglen Ffermio ar S4C.

Research and Presenter
Megan Williams

Gwion Ifan

Ymchwilydd Archif / Hunan-saethwr / Sain
Will Samuel
Yn dilyn graddio yn y cyfryngau yn Aberystwyth fe ynunodd gyda Telegop yn 2014 gan weithio ar nifer o raglenni. Fe wnaeth greu a chynhyrchu cyfres i bland Fferm Fach. Mae'n gweithio fel peirianydd sain hefyd ac ymchwiliydd archif ar rai o'r cynhyrchiadau mwyaf cymhleth fel Prince and The Bomber, ffilm Marc Evans a The Story of Indie,y ddwy raglen yn ennill BAFTA.
Mae hefyd yn saethu fidios cerddorol ac yn cyflwyno podcast.
Nid oes terfyn ar ddawn Will!

Researcher / Development
Srishti Berry
Symudodd Srishti i'r DU yn 2022 ac ers hynny mae wedi bod yn rhan o dîm datblygu Telesgop, yn ysgrifennu cynigion ac yn datblygu syniadau rhaglenni. Gyda'i chefndir mewn llenyddiaeth a'r cyfryngau, mae Srishti wedi llwyddo i greu lle iddi hi ei hun yn nhirwedd deledu Cymru sy'n fywiog ac yn ddeinamig. Mae ei diddordeb mewn rhaglenni dogfen ffeithiol a hanesyddol, cyfresi digidol a chyfryngau cymdeithasol. Mae Srishti yn angerddol am gelfyddyd adrodd straeon ac mae'n anelu at gynrychioli ei chymuned a'i diwylliant ei hun trwy ei gwaith. Wrth fod yn awdur, mae Srishti yn anelu at gyfarwyddo a dod yn wneuthurwr ffilmiau.

Ymchwilydd
Gwenan Mars Lloyd
Ymunodd Gwenan â Telesgop ym mis Medi 2024 ar ôl cwblhau gradd BA mewn Perfformio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mae hi’n gweithio fel ymchwilydd a swyddog cyfryngau cymdeithasol y cwmni, gan reoli llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys cyfrifon Ffermio yn ogystal â gweithio fel ymchwilydd.
Hyd yma, mae wedi gweithio ar draws ystod eang o raglenni teledu, gan gynnwys Ffermio, Nôl o’r Dibyn / Back From the Brink, Gŵyl Cerdd Dant, Eisteddfod Ffermwyr Ifanc, Sioe Môn a Sioe Sir Benfro. Yn ogystal â theledu, mae Gwenan wedi cyfrannu at sawl rhaglen radio, gan gynnwys rhaglen Ifan Jones Evans a darllediadau amrywiol i BBC Radio Wales.
Yn awyddus i ddatblygu o fewn y diwydiant, mae Gwenan yn frwdfrydig, yn hyblyg, ac yn yn barod i gymryd rhan mewn ystod eang o rolau a chyfleoedd newydd. Y tu allan i’r gwaith, mae’n mwynhau canu ystod o genres gwahanol, yn ogystal ag actio ac adrodd.

Golygydd / Peiriannydd
Dai Rees
Mae Dai yn uwch olygydd ac yn gofalu am elfennau perianneg darlledu, naill a'i yn y stiwdios neu ar ddarllediadau allanol.
Mae ganddo flynyddoedd maith o brofiad golygu ac yn barod i droi ei law at bob math o wahanol arddull.
Mae yn gerddor yn ei amser sbar gan ganu Saxophone mewn bandiau.

Cydlynydd Ôl-gynhyrchu / Golygydd
Teleri Rees
Mae Teleri yn gyfrifol am yr adran ôl-gynhyrchu. Mae wedi gweithio ar y mwyafrif o gynyrchiadau Telesgop ers 2014, sy’n cynnwys y gyfres ‘Music For Misfits’ â enillodd BAFTA Cymru yn 2016. Mae hefyd yn golygu eitemau Ffermio.

Ôl-gynhyrchu
Leia Cordey
Ar ôl graddio’n ddiweddar o Brifysgol De Cymru gyda gradd meistr mewn golygu ffilm, mae Leia wedi ymuno â’n tîm ôl-gynhyrchu yma yn Telesgop.

Cynorthwydd Cynhyrchu
Sarah Hendre
Ymunodd Sarah â Telesgop yn y flwyddyn 2000 i weithio ar rhaglenni’r Sioe Frenhinol fel Cynorthwydd Cynhyrchu. Cyn hynny, cafodd ei hyfforddi yn adran newyddion y BBC yng Nghaerdydd.
Mae wedi gweithio ar holl rhaglenni byw Telesgop ac yn amhrisiadwy wrth greu amserlenni ar gyfer rhaglenni digwyddiadau’r cwmni fel The Royal Welsh Show.
Sarah sydd â’r dasg o glirio cerddoriaeth rhaglenni Telesgop megis ‘Music for Misfits – The Story of Indie’, ‘John Denver: Country Boy’ and ‘Meat Loaf: In and Out of Hell’ ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ac mae’n deall y system hawlfraint drwyddi draw.

Rheolwr Cynhyrchu
Elin Mair
Ers dechrau gyda Telesgop yn 2010, mae Elin Mair wedi ymgymryd â sawl rôl o fewn y cwmni, ond ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n Rheolwr Cynhyrchu ar gynyrchiadau Telesgop. Mae hyn wedi cynnwys trefnu ffilmio o fewn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â threfnu teithiau tramor gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Uganda, Norwy a Seland Newydd. Mae wedi bod yn Rheolwr Cynhyrchu ar raglenni dogfennol fel Jazzology a David Hurn: A Life in Pictures ar gyfer BBC Four, Lily: A Transgender Story ar gyfer BBC One Wales a BBC Three, Climate Challenge ar gyfer Sky Vision, a Her yr Hinsawdd, Y Bomiwr a’r Tywysog a’r gyfres wythnosol Ffermio ar gyfer S4C.
Mae hefyd wedi gweithio droeon ar ddigwyddiadau fel The Royal Welsh Show ar gyfer BBC One Wales a BBC Four, ac Eisteddfod CFFI Cymru a’r Ŵyl Cerdd Dant. Yn ogystal â gweithio ar raglenni teledu a radio, mae hefyd wedi rheoli amryw o brosiectau addysg ar gyfer Llywodraeth Cymru, er enghraifft gwe-blatfformau am y diweddar Dylan Thomas, T. Llew Jones ac Yr Athro Gwyn Thomas.

Web Developer / Graphics / Animation
Tom Mann
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, fe ymunodd Tom gyda Telesgop ym Mehefin 2022 fel cynllunydd we. Fe astudiodd Tom gerddoriaeth yn Athrofa Cerddoriaeth Fodern Prydain ac Iwerddon cyn dechre' hyfforddiant mewn Datblygu Full Stack. Mae Tom yn ddatblygydd brwd gyda diddordeb mawr mewn gwaith datblygu blaen hefyd.

Pennaeth Gweinyddol
Siân Ann Davies
Gyda 10 mlynedd o brofiad fel Cynorthwydd Cynhyrchu yn y BBC, symudodd Siân ymlaen at Telesgop fel PA, gweinyddydd ac ymuno gyda’r adran gyfrifon. Mae ei phrofiad, ymrwymiad a theyrngarwch dros y 27 mlynedd diwetha’ wedi chwarae rôl bwysig i lwyddiant parhaol Telesgop.

Cyllid / Materion Busnes
Keith Evans
Mae gan Keith hanes hir ym maes y cyfryngau fel un sydd yn delio gyda materion ariannol. Dros y blynyddoedd fe wnaeth feithrin perthynas gyda nifer o ddarlledwyr ac yn ei yrfa flaenorol gyda HTV Cymru bu'n gyfrifol am gadw trefn ar gyllidebau enfawr. Mae ganddo gyfrifoldeb dros ochor fusnes ac arianol y cwmni ym mhob un o adrannau y cwmni.

Sylfaenydd a Chadeirydd
Elin Rhys
Yn dilyn gradd mewn biocemeg ym mhrifysgol Abertawe fe wnaeth Elin ymchwil ar ddatblygiad addysg wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ym 1979 cychwynodd ar yrfa fel gwyddonydd yn Awdurdod Dwr Cymru yn archwilio ansawdd dwr yfed a dwr gwastraff. Ym 1984 dechreuodd ei gyrfa yn y cyfryngau yn cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni, gwyddonol yn bennaf, i nifer o sianelau megis S4C, BBC Schools a Channel 4. Bu hefyd yn cyflwyno rhaglenni cyffredinol ar nifer o bynciau i S4C, BBC Wales, HTV Wales a BBC 2 gan gynnwys dogfennau, rhaglenni cylchgrawn a digwyddiadau byw. Sefydlodd gwmni Telesgop ar Fai y 4ydd 1993 gan gyflogi, ar gyfartaledd, 30 aelod o staff parhaol. O fewn ei swyddogaeth fel rheolwr mae Elin wedi bwrw golwg dros gannoedd o oriau o deledu a radio; rhaglenni dogfen ar BBC Wales, BBC FOUR, S4C, Channel 4 a Discovery; rhaglenni cylchgrawn i BBC Wales ac S4C, rhaglenni byw o ddigwyddiadau i BBC, a chyfres bwysig Ffermio. Enillodd y cwmni ambell wobr BAFTA Cymru dros y blynyddoedd. Mae gan Telesgop aden radio, gan gynhyrchu 700 o oriau yn flynyddol, ac adrannau addysg a chorfforaethol. O ran cynhyrchu rhaglenni ei hun, maes gwyddoniaeth yw prif ddiddordeb Elin, yn cynnwys cylchgrawn wyddonol Dibendraw, a rhaglenni pwysig ar oblygiadau newid hinsawdd i S4C a Sky Vision - Her yr Hinsawdd. Erbyn hyn mae hi'n canolbwyntio ar radio gyda chyfresi gwyddonol megis Yfory Newydd, Y Cwestiwn Mawr, What If, The Moon and Us, I Need my Space. Yn fwy na dim, mae Elin yn falch iawn ei bod wedi sefydlu cwmni hollol annibynol yng ngorllewin Cymru a chynnig cyfle i gymaint o dalent cynhyrchu y gorllewin sydd yn medru byw ac aros yng nghefn gwlad Cymru.

Cyfarwyddwr Cwmni, Cyflwynydd
Richard Rees
Bu Richard yn gyfarwyddwr yn Telesgop bron ers y dechrau ac yn gyfrifol am ennill cytundebau dirifedi a chynhyrchu cannoedd o oriau i’r cwmni. Cyn hynny bu gyda’r BBC am 20 mlynedd. Richard oedd yn gyfrifol am ennill cytundeb Ffermio i’r cwmni, ac hefyd y darllediadau o Faes y Sioe Frenhinol sydd wedi bod yn gymaint o hanes y cwmni ers y dechrau. Ei brif ddiddordeb personol yw byd natur ac yn ddiweddar fe gwbwlhaodd ffilm dros 5 mlynedd ar fywyd gwyllt yr afon mae’n byw yn ei hymyl, yr Afon Tywi. Dros y blynyddoedd mae wedi ffilmio nifer o gyfresi bywyd gwyllt i S4C o bedwar ban byd, gan gynnwys y ddau begwn.
Drwy gydol ei yrfa bu Richard yn darlledu ar y radio, gan fod yn un o’r troellwyr cyntaf ar Radio Cymru. Mae Richard yn dal i ddarlledu yn fyw bob bore Sadwrn ar BBC Radio Cymru.

Ymchwilydd a Gohebydd
Elan Jones
Ymunodd Elan â Telesgop yn 2026 fel Ymchwilydd a Gohebydd i raglenni Y Bwletin Amaeth, Troi’r Tir a Country Focus ar BBC Radio Cymru a Radio Wales. Wedi ymgartrefu yn y ddinas yng Nghaerdydd, mae Elan yn wreiddiol o bentref gwledig Cwmann ger Llambed ac felly mae cefn gwlad yn agos iawn i’w chalon.
Graddiodd yn Y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd yn 2024 ac yn ystod ei chyfnod yno, magodd ddiddordeb mewn cyflwyno wrth iddi gyd-gyflwyno rhaglen ar Xpress Radio Caerdydd ac yn ei rôl fel ‘Cyd-Bennaeth Cynhyrchu a Rhaglenni Cymraeg’ yr orsaf.
Mae perfformio wedi’w wreiddio yn ddwfn yn Elan ers yn blentyn. Mae hi’n Eisteddfotwraig frwd, yn gyn-aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann ac yn ei hamser hamdden, mae hi wrth ei bodd yn cymdeithasu, yn canu gyda Chôr Taflais ac yn dawnsio.
Yn ogystal â’i phrofiad o weithio ar amryw o raglenni BBC Radio Cymru (Bore Cothi, Beti a’i Phobol, Dros Ginio, Aled Hughes, Carl ac Alun, Trystan ac Emma, Heledd Cynwal), mae hefyd ganddi brofiad o weithio ym myd y teledu ar raglenni plant gyda Chwmni Ceidiog (Ne-wff-ion, Help Llaw) yn ymchwilio, trosleisio, perfformio, cynhyrchu a chynorthwyo â’r cyfryngau cymdeithasol a'r wefan.
Mae Elan wrth ei bodd yn cael y cyfle i weithio ar raglenni amaeth y BBC ac yn eiddgar i adeiladu perthynas dda gyda’r gwrandawyr, rhannu straeon diddorol, a datblygu fel Gohebydd drwy ddod ag egni a brwdfrydedd i’r rhaglenni.

Ymchwilydd a Gohebydd
Lois Cernyw
Ers yn ddim o beth mae Lois wedi breuddwydio am gael ffermio ac ers 4 mlynedd mae hi wedi bod yn gwireddu ei breuddwyd yn ôl yn ardal ei mebyd. Dechreuodd efo dau gi ymunodd dwy iâr, dwy gath, yna dwy ddafad ac yn union fel Noa a’i arch mai wedi bod yn ychwanegu anifeiliaid fesul dau, a dau fochyn ydi’r anifeiliaid diweddaraf i ymuno. A digwydd bod, mae ganddi ddau o blant bach a dwy lysferch hefyd!
Ers 20 mlynedd mae hi wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar S4C ac wedi bod yn cyflwyno ar y Radio ers dros 10 mlynedd, ar Heart, Capital, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.
Ymunodd gyda tîm Telesgop yn 2026. Mae’r cyfle i gyfuno'r dau beth mai’n ei garu, sef cefn gwlad a chyflwyno yn rhywbeth mae hi’n ei drysori ac mae hi’n edrych ymlaen at rannu straeon pobl cefn gwlad Cymru.

