Mae Telesgop yn chwilio am gynorthwydd golygu i ymuno gyda’r tîm yn Abertawe, i weithio gyda’n golygyddion ar amryw brosiectau ar draws teledu, radio a gwaith masnachol.
Fe fydd y rôl yn cynnwys:
- Llwytho
- Rhedeg system archifo a storio
- Bras olygu
- Cefnogi y tîm ôl gynhyrchu.
Sgiliau manteisiol:
- Gwybodaeth am dechnoleg, fformatau a llifoedd gwaith
- Gwybodaeth TG a arferion da storio a threfnu ffeiliau
- Siarad Cymraeg
- Trwydded yrru
Oriau hyblyg a pharodrwydd i weithio rhai penwythnosau a gwyliau banc
Mae Telesgop yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal.
Yr ydym yn gwmni dwyieithog (Cymraeg & Saesneg)
CV A LLYTHYR: info@telesgop.cymru
DYDDIAD CAU - 27/5/22, 17:00